Mae Ysgoloriaethau Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth (KESS) yn rhaglen Gydgyfeirio Ewropeaidd o bwys dan arweiniad Prifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Gan gael budd o Gronfeydd Cymdeithasol Ewropeaidd (ESF), bydd KESS yn cefnogi projectau ymchwil cydweithredol (Meistri Ymchwil a PhD), gyda phartneriaid allanol, wedi’u lleoli yn Ardal Gydgyfeirio Cymru (Gorllewin Cymru a’r Cymoedd). Bydd KESS yn parhau o 2009 tan 2014, ac yn darparu 400+ o leoedd PhD a Meistr.
Mae elfennau’r Meistri Ymchwil a PhD wedi’u cyfuno â rhaglen hyfforddi mewn medrau uchel eu safon, gan arwain ar Gymhwyster Ôl-radd mewn Datblygu Sgiliau.
Amcanion allweddol KESS yw:
- Gwella capasiti busnesau bach a chanolig o ran gwaith ymchwil drwy gysylltu â phrosiect Doethuriaeth / Meistr
- Annog busnesau bach a chanolig i wneud gwaith ymchwil a recriwtio ymchwilwyr
- Paratoi a hyfforddi unigolion i gyfrannu at waith ymchwil fel gweithwyr proffesiynol
- Cefnogi’rgwaithoddatblygutechnolegauallweddolynyrardal Gydgyfeirio
- Hyrwyddo’rgwaithoddatblygusgiliaulefeluwch
- Mae KESS yn agos iawn at fodlon i anghenion sgiliau lefel uwch prosiectau blaenoriaeth a sectorau economaidd â blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yn y sectorau a ganlyn – Yr Economi Ddigidol; yr Economi Carbon Isel; Iechyd a Biowyddoniaeth; Gweithgynhyrchu a Pheirianneg Uwch
Ffeithiau am KESS
- Mae KESS wedi darparu 453 o leoliadau Doethuriaetha Meistr (230 Doethuriaeth / 223 Ymchwil Meistr)
- Mae rhaglen hyfforddi a datblygu sgiliau lefel uwch wedi’i chynnwys ym mhob prosiect, gan arwain at Ddyfarniad Datblygu Sgiliau Ôl-raddedig (PSDA)
- Mae pob prosiect yn gweithio ar y cyd â chwmni/sefydliad yn yr ardal Gydgyfeirio
- Mae pob un o Brifysgolion Cymru’n cymryd rhan yn y prosiect
- Mae’r prosiect yn olrhain y nifer sy’n cwblhau er mwyn casglu data ystyrlon ynghylch eu hynt ar gyfer y rhanbarth
- Mae OB3 yn gwerthuso KESS yn allanol
- Cyfanswm cyllideb KESS yw £31.5 miliwn
- Mae gennym rwydwaith cryf o Alumni (ysgol heigiona phartneriaid cwmni) KESS (yn gweithredu drwy LinkedIn) : rydym yn bwriadu defnyddio’r rhwydwaith hwn ar gyfer rhaglen fentora yn ystod KESS II.
Ystadegau KESS
- Mae 61% o’r sefydliadau sy’n cymryd rhan yn KESS yn fusnesau bach a chanolig
- Mae 380 o gwmnïau/sefydliadau sydd wedi bod yn ymwneud â’r prosiect, ar gronfa ddata KESS
- Dosbarthiad ymhlith y sectorau blaenoriaeth : 50% Iechyd a Biowyddoniaeth; 20% Yr Economi Carbon Isel; 17% Yr Economi Ddigidol (TGCh); 11% Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch; 2% Arall
Ychwanegedd
Mae pob un o ysgolheigion KESS yn mynychu Ysgol breswyl i Raddedigion KESS i weithio ar hyfforddiant ar gyfer busnesau a gweithgareddau datblygu : cynhelir y digwyddiadau hyn ledled y rhanbarth a drwy gydol y flwyddyn.
Drwy Gymdeithas Prifysgolion Ewrop (EUA), rydym wedi sefydlu Ysgol Ddoethurol Ddiwydiannol Ewropeaidd (E.I.D.S.), sy’n golygu ein bod yn gallu gweithio gyda Phrifysgolion sy’n bartneriaid ledled Ewrop a chynnig cyfleoedd trawswladol i’n hysgolheigion KESS a phartneriaid cwmni.
Mae KESS wedi sefydlu porth hyfforddi a datblygu Doethurol, dwyieithog i’r holl Brifysgolion sy’n cymryd rhan yn y rhaglen ei ddefnyddio, lle bydd cyfleoedd ar gael i bawb sy’n ymwneud â’r prosiect.