Mae prosiect KESS wedi cael ei gynnal ers chwe mlynedd nawr, a’r llynedd gwnaethom y penderfyniad i lansio rhwydwaith Alumni KESS. Nid dim ond i fyfyrwyr sydd wedi bod yn rhan o’r rhaglen y mae’r rhwydwaith – mae hefyd i’r academyddion a’r cwmnïau partner sydd wedi ymwneud â hi.
Mae rhwydwaith Alumni KESS yn ffordd o barhau â’r perthnasoedd hynny ar ôl cwblhau prosiectau KESS unigol, ac mae’n rhoi cyfle i bobl sydd wedi ymwneud â KESS i rwydweithio, a allai ysgogi mwy o waith ar y cyd.
Dyma rai enghreifftiau o’n cyn-fyfyrwyr
Cafodd Patrick Burn o Brifysgol Bangor, alumnus meistr Ymchwil KESS, gynnig swydd yn y cwmni fel Peiriannydd dylunio a datblygu:
“Mae KESS yn gyfle gwych i gael profiad gwaith gwerthfawr drwy gwblhau prosiect cymhwysol â ffocws. Bydd y sgiliau a ddatblygwch a’r profiad gwaith a gewch yn eich helpu i gael yr yrfa o’ch dewis. Mae’r cynllun wedi’i drefnu’n dda ac mae ganddo rwydwaith cymorth mawr i helpu’r holl fyfyrwyr i gwblhau eu cwrs ôl-radd”.
Mae Dr James Evans o Brifysgol Caerdydd, Alumnus PhD KESS, wedi parhau i weithio gyda’i gwmni partner, Cultech Ltd, ers cwblhau ei PhD:
“Roedd KESS yn fy ngalluogi i gwblhau PhD, dilyn cyrsiau ychwanegol i wella fy nghyflogadwyedd a chysylltu hefyd â chyflogwr lleol sydd nawr wedi rhoi cyfle i mi i weithio gyda hwy. Ac ystyried yr anawsterau cyflogadwyedd sy’n wynebu graddedigion ar hyn o bryd, roedd y cyfle hwn yn amhrisiadwy”.
Mae Dr Diane Jones o Brifysgol Bangor, Alumna PhD KESS a fu’n gweithio gyda Chanolfan treftadaeth Cae’r Gors ar ei phrosiect PhD, wedi symud ymlaen o’r Brifysgol ac mae hi nawr yn gweithio yn yr awdurdod lleol:
“Ar hyn o bryd, rydw i’n gweithio fel Rheolwr Strategol i Gonsortiwm Addysg Ôl-16 Gwynedd ac Ynys Môn, ac mae gen i swydd ran-amser fel Tiwtor Iaith yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor”. Roedd KESS yn bwysig i Diane. “Roeddwn yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl bod gartref gyda fy mhlant am rai blynyddoedd. Roedd strwythur ysgoloriaeth KESS yn ddelfrydol i mi gan ei fod yn cyfuno profiad gwaith â dysgu ac ymchwil”.
Mae Dr Christian Dunn o Brifysgol Bangor, Alumnus PhD KESS a fu’n gweithio gydag Energy & Environment Business Services Ltd., wedi cael ei gyflogi gan y Brifysgol fel darlithydd ac mae nawr yn goruchwylio ei fyfyrwyr KESS ei hun. Meddai Christian am y prosiect:
“Rydych chi’n cael y gorau o’r ddau fyd: y byd academaidd a diwydiant. Mae Prifysgol Bangor yn cynnig digonedd o gymorth a hyfforddiant i’w hysgolorion KESS felly mae’n debyg eich bod yn gadael â mwy o sgiliau trosglwyddadwy ac felly’n fwy cyflogadwy na drwy ddilyn llwybrau PhD eraill”.
Ar hyn o bryd, mae gan y rhwydwaith Alumni KESS 100 o aelodau sydd wedi ymuno â thudalen LinkedIn Alumni KESS. Caiff gwaith Alumni KESS ei ehangu yn ystod oes prosiect olynydd KESS a chynigir gwasanaethau mentora a pharu i’r aelodau.