Am manylion ein partneriaid cliciwch yma
Am ragor o wybodaeth am KESS, neu sut i wneud cais am broject KESS, cysylltwch â’r canlynol:
Tîm Canolog KESS (Bangor)
Enw: Penny Dowdney
Teitl swydd: Rheolwr Project KESS
Cyswllt: 01248 382266 / p.j.dowdney@bangor.ac.uk
Rwyf yn rheolwr y project KESS, gan arwain y project o Fangor a gweithio gyda’r naw prifysgol sy’n bartneriaid yn y cynllun. Cefais fy mhenodi’n rheolwr y project KESS yn weddol ddiweddar. Cyn hynny roeddwn yn gyfrifol am agweddau academaidd y project, y broses cymeradwyo’r project, a’r elfennau sgiliau a datblygu/hyfforddiant o’r project. Rwy’n dal i ymdrin â’r materion hynny, ac felly rwyf o hyd yn brif bwynt cyswllt i faterion cyffredinol yn ymwneud â’r project, cymhwyster ôl-radd KESS ar ddatblygu sgiliau, Ysgolion Graddedigion KESS a materion o natur academaidd. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar sefydlu cyfleoedd rhyngwladol o fewn y project. Rydym yn gweithio hefyd ar y posibilrwydd o fynd â’r project ymlaen y tu hwnt i 2015.
Mae fy nghefndir ym maes Datblygu Addysgol ac roedd fy ymchwil ddoethurol yn ymwneud â meithrin diwylliant. Rwy’n Rheolwr Datblygu Sgiliau Ymchwil ym Mangor, gan weithio ar hyfforddiant i fyfyrwyr doethuriaeth, hyfforddi goruchwylwyr (academaidd a diwydiannol) a Datblygu Ymchwilwyr. Rwy’n rhoi hyfforddiant arbenigol mewn ysgrifennu theses doethurol ac mewn Rhyngwladoli. Ar hyn o bryd rydym yn sefydlu’r project KESS yn ein Hysgol Ddoethurol ym Mangor. Mae’r project KESS wedi agor agwedd newydd ar fy ngwaith ym maes Datblygu Ymchwilwyr, sef ymwneud â chyflogwyr. Mae’r cyfle i weithio â chyflogwyr y dyfodol, yn y Brifysgol ac yn eu gweithleoedd, wedi ychwanegu dimensiwn newydd a chyfoethog sydd i mi’n hynod werthfawr.
Rwy’n treulio unrhyw amser hamdden sydd gennyf yn rhedeg ein tyddyn, marchogaeth, cymdeithasu neu’n canu gyda fy mand.
Enw: Brian Murcutt
Teitl swydd: Uwch Weinyddwr KESS
Cyswllt: 01248 382162 / b.murcutt@bangor.ac.uk
Rwyf wedi fy lleoli yn y Swyddfa Gyllid lle rwy’n chwarae rhan allweddol yng ngweithredu a chwblhau’r projectau hyn ledled Cymru. Rwy’n gweithio ar ddatblygu trefniadau a deunyddiau gweithredu’r project a sicrhau bod y rhain yn cael eu defnyddio gan staff KESS, sefydliadau AU sy’n bartneriaid yn y cynllun, academyddion, myfyrwyr a chwmnïau partner. Rwy’n gyfrifol am yr holl faterion yn ymwneud â’r gyllideb, yn cynnwys ceisiadau am gostau. Fi yw’r prif bwynt cyswllt ynghylch materion cymhwysedd, monitro a chydymffurfio. Mae tîm KESS yn rhoi cyflwyniadau, gweithdai a hyfforddiant i rai sy’n cymryd rhan yn y project, staff cwmnïau, academyddion a staff sefydliadau AU sy’n bartneriaid yn y cynllun.
Dechreuais weithio yn y Brifysgol yn 1988 ac rwyf wedi bod yn y Swyddfa Gyllid am 25 mlynedd, gan ddelio â llawer o ddyletswyddau’n ymwneud â chyllid. Am 23 mlynedd rwyf wedi bod yn rheoli portffolio mawr o grantiau ymchwil a phrojectau contract, yn amrywio o Gynghorau Ymchwil, elusennau, llywodraeth, cwmnïau, partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth (KTP) a phrojectau A4B. Yn 2004 gweinyddais y project Amcan Un Datblygu Sgiliau Astudio, a gyllidwyd o’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF). Dilynwyd hyn yn 2005 gan y project Hyfforddiant Sgiliau Ymchwil, a gyllidwyd hefyd ag arian Amcan Un (ESF). Y project hwn oedd y cyntaf ar y cyd gyda Phrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Abertawe. Yn 2009 cefais fy mhenodi i’m swydd bresennol fel uwch weinyddwr Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS), a gyllidir drwy gyllid cydgyfeiriant (ESF).
Enw: Laura Telleri Stafford
Teitl swydd: Swyddog Cyswllt Busnes KESS
Cyswllt: 01248 388585 / l.t.stafford@bangor.ac.uk
Yn fy rôl fel Swyddog Cyswllt Busnes ar y prosiect KESS , yr wyf yn gyfrifol am ymgysylltu â busnes, marchnata a chyhoeddusrwydd, gan gefnogi gweithredu a datblygiad pellach y cynllun KESS ym Mangor. Rwy’n gyfrifol am hyrwyddo’r project KESS ledled Cymru, gan weithio gyda’r naw prifysgol bartner, ac elfen benodol i Fangor yn ymwneud ag ysgoloriaethau KESS Bangor.
Mae gennyf dros deg mlynedd o brofiad i ymwneud â’r cyhoedd a gweithio gyda busnes, gan ddechrau ym maes datblygu cymuned ac yna gweithio mewn addysg uwch. Mae’r holl brofiadau hyn yn golygu bod gennyf sylfaen gadarn ym maes cyllid, marchnata a hyrwyddo projectau, recriwtio myfyrwyr a chwmnïau, ynghyd â monitro a chloriannu projectau sy’n derbyn cyllid Ewropeaidd.
Enw: Caroline Barton
Teitl swydd: Uwch Swyddog Clercyddol KESS
Cyswllt: 01248 382582 / c.barton@bangor.ac.uk
Ymunais â KESS yn dilyn cyfnod fel Cynorthwywr Personol ac rwyf wedi bod yn rhoi cefnogaeth i dîm project KESS mewn awyrgylch prysur a deinamig ers dwy flynedd. Fel pwynt cyswllt cyntaf i ysgolorion KESS, eu goruchwylwyr academaidd a chwmnïau allanol sy’n bartneriaid i brojectau KESS, PhD a Meistr trwy Ymchwil, rwy’n ymwneud â phob cam o recriwtio myfyrwyr ôl-radd i brojectau KESS, o’r alwad gychwynnol am brojectau ymchwil i roi gwybod i’r Gofrestrfa Academaidd am ymgeiswyr llwyddiannus. Rwy’n gyfrifol am bob agwedd ar drefnu cyfarfodydd a fideo gynadleddau. Mae gennyf ffordd ymarferol o edrych ar bethau er mwyn delio’n effeithiol â phroblemau fel maent yn codi.
Gan mai Bangor yw prif bartner y project KESS, cyfrifoldeb allweddol yw cadw cofnodion cywir o’r holl brojectau a gyflwynir i dderbyn cyllid KESS. Defnyddir gwybodaeth o’r cofnodion hyn yn y gronfa ddata ac ar gyfer dadansoddi ystadegol pellach a rhoi gwybodaeth i’r corff cyllido a budd-ddeiliaid.
Mae egni cadarnhaol project KESS a’i waith, gyda’r cwmnïau partner, yn datblygu llwybr gyrfa i rai o raddedigion mwyaf dawnus Cymru, yn golygu bod gennyf ffydd fawr yn nyfodol twf yng Nghymru.
Yn fy amser rhydd rwy’n mwynhau treulio amser gyda’m teulu, cynllunio teithiau, cerdded y mynyddoedd a chwaraeon rhwyfo.
Enw: Aashu Jayadeep
Teitl y Swydd: Uwch Swyddog Clercyddol KESS
Cyswllt: 01248 382357 / a.jayadeep@bangor.ac.uk
Ymunais â phrosiect KESS yn 2014 ac rydw i’n darparu cefnogaeth i’n tîm prysur a brwdfrydig. Yn ogystal, rydw i’n cefnogi rheoli Skills Forge ar gyfer prosiectau PhD ac Ymchwil Meistr KESS.
Yn dilyn symud yn ddiweddar i Ogledd Cymru, ymunais â Phrifysgol Bangor yn y dechrau fel myfyriwr er mwyn gwneud fy ail Radd Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA – Rheoli Gwybodaeth) a graddiais gyda rhagoriaeth yn 2013.
Mae fy nghefndir mewn TG Addysg Uwch a Rheoli. Yn dilyn fy ngradd Baglor, euthum ymlaen at fy ngradd Meistr cyntaf mewn Defnyddio Cyfrifiaduron yng Ngholeg Peirianneg Trivandrum (CET), yn India. Yn dilyn fy ngwaith fel hyfforddwr cyfrifiaduron mewn sawl sefydliad yn India ac Oman, ymunais â Choleg y Dwyrain Canol (MEC), Oman, sefydliad Addysg Uwch parchus sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Coventry (DU) fel Darlithydd mewn Gwyddor Cyfrifiaduron. Tra’r oeddwn yn y Sefydliad, cymerais swyddogaeth fel Uwch Swyddog ar gyfer Sicrhau Ansawdd a Swyddog Polisi, yn cydlynu a rheoli amrywiaeth o brosiectau cysylltiedig ag Archwilio a Sicrhau Ansawdd mewn Addysg Uwch. Roedd yr holl brofiadau hyn wedi fy helpu i ennill mewnwelediadau gwerthfawr cysylltiedig â phrosiectau addysg uwch.
Enw: Mererid Gordon
Teitl y Swydd: Uwch Swyddog Clercyddol KESS
Cyswllt: 01248 388715 / m.h.gordon@bangor.ac.uk
Ymunais gyda KESS ym mis Rhagfyr 2014 ag rwy’n cynorthwyo’r tîm gyda gwaith clerigol y prosiect. Ers gweithio gyda GO Wales yn flaenorol mae gennyf ddealltwriaeth da o brosiect sydd wedi ei ariannu’n allanol ag rwy’n mwynhau gweithio o fewn strwythur sy’n cefnogi myfyrwyr a graddedigion gyda’u datblygiad gyrfaol.
Mae gennyf hefyd gefndir o fewn celf gyda BA (Hons) Graphic Arts – Illustration ers graddio o Brifysgol John Moore’s Lerpwl yn 2011. Rwyf wedi parhau I fod yn artist gweithredol gan adeiladu ar fy mhrofiad wrth redeg gweithgareddau gweithdai celf, cyd-weithio a chyd-drefnu prosiectau celf rhyngwladol gyda cymheiriaid, cleientiaid ag artistiaid eraill.
Rwy’n mwynhau cyfuno fy sgiliau wrth draw-dorri elfennau trefniadaeth a chreadigol I ennill canlyniadau ym mhob elfen o fy ngwaith.

Enw: Sandra Roberts
Teitl swydd: Uwch Swyddog Clercyddol ATM
(gan roi cymorth i KESS yn achlysurol)
Cyswllt: 01248 382501 / fos024@bangor.ac.uk
Ymholiadau ATM: atm@bangor.ac.uk
Rwyf wedi bod yn uwch swyddog clercyddol yn y Swyddfa Ymchwil a Menter ers rhai blynyddoedd, gan roi cymorth gweinyddol a chyllid gyda phrojectau ESF blaenorol.
Ar hyn o bryd rwyf ar secondiad o’m prif swyddogaeth i weithio’n bennaf gyda’r project ATM, a gyllidir gan yr ESF. Mae hwn yn darparu ysgoloriaethau i fyfyrwyr Meistr hyfforddedig. Rwy’n cynorthwyo gyda’r project KESS pan fo angen.
Fy mhrif gyfrifoldebau yw delio gyda cheisiadau am gyllid gan fyfyrwyr a chontractau, cyfnodau cynefino, taflenni amser, taliadau cyflog a monitro. Rwyf hefyd yn goruchwylio casglu data ynghyd.
Partneriaid KESS mewn sefydliadau addysg uwch
Bydd rhagor o wybodaeth yn ymddangos yma cyn bo hir.
Dyma restr o’r prif gysylltiadau ar gyfer y project KESS ym mhob un o’r prifysgolion:
Sefydliad | Enw / Rôl | Manylion cyswllt |
---|---|---|
Prifysgol Abertawe swansea.ac.uk |
Jane Kelly Cydlynydd y Prosiect |
01792 513565 j.kelly@swansea.ac.uk |
Prifysgol Aberystwyth aber.ac.uk |
Gwern Hywel Prif Cyswllt KESS |
01970 628579 gwh5@aber.ac.uk |
Prifysgol De Cymru southwales.ac.uk |
Leanne Crawley Prif Cyswllt KESS |
01443 654496 leanne.crawley@southwales.ac.uk |
Metropolitan Abertawe (UWTSD) uwtsd.ac.uk |
Cheryl Buckley Gweinyddwr KESS |
01792 481199 cheryl.buckley@uwtsd.ac.uk |
Prifysgol Caerdydd cf.ac.uk |
Rebecca Blackwell Swyddog Ewropeadd |
02920 879196 BlackwellRM@cf.ac.uk |
Prifysgol Fetropolitan Caerdydd cardiffmet.ac.uk |
Anne Barratt Gweinyddwr KESS |
02920 416612 ALBarratt@cardiffmet.ac.uk |
Prifysgol Glyndwr glyndwr.ac.uk |
Stewart Milne Pennaeth Gwasanaethau Ymchwil |
01792 481199 s.milne@glyndwr.ac.uk |