Astudiaethau Achos: system imiwnedd

Deall rôl gwrth/pro tiwmorigenig INF-Y mewn canser y coluddyn (Safbwynt Myfyriwr)

Uchafbwynt Yr uchafbwynt i mi hyd yma yw’r broses o ddechrau casglu’r data. Roedd y wybodaeth a oedd yn dod i law yn gymysg iawn felly roedd yn fuddiol gallu defnyddio’r sgiliau roeddwn wedi’u dysgu o ran trefnu’r data a gweld bod rhywbeth yn digwydd. Roedd yn deimlad cyffrous iawn.

Datblygiad personol Gyda diolch i elfen sgiliau’r prosiect KESS rwyf wedi cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi ar reoli prosiectau ac amser, rwyf hefyd wedi mynd i weithdai ar sut mae cynllunio prosiect a’r hyn sy’n ddisgwyliedig ohonof fel gwyddonydd. Yn ogystal â hyn, rwyf wedi bod yn edrych ar dechnolegau newydd a fydd yn fy helpu gyda fy ymchwil.

Darllen mwy »