PSDA Gwobr Datblygu Sgiliau Ôl-radd

Diben KESS yw paratoi a hyfforddi unigolion i gyfrannu at ymchwil fel gweithwyr proffesiynol. Rydym hefyd yn ceisio hybu sgiliau lefel Uwch ymysg sectorau blaenoriaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ymchwil a datblygu. Felly, mae elfen o ddatblygu sgiliau’n rhan o bob ysgoloriaeth KESS. Mae’r wobr hon, a gefnogir gan gyllideb flynyddol ar gyfer datblygu sgiliau, wedi bod yn agwedd lwyddiannus iawn ar y prosiect KESS yn ei gyfanrwydd.

Mae cyfranogwyr KESS yn cael y dasg o gwblhau nifer o ‘gredydau KESS’ sy’n cyfrif tuag at y PSDA drwy gwblhau cyfanswm nifer o oriau hyfforddiant y cytunwyd arno. Ein targed cychwynnol i’r ysgolorion PhD yw 60 o ‘gredydau KESS’, ond rydym yn falch o weld bod y rhan fwyaf o ysgolorion yn cwblhau, mewn gwirionedd, tair gwaith cymaint â hynny erbyn iddynt gwblhau’r cwrs.

Llwybr Nodweddiadol

Gellir casglu ‘credydau KESS’ drwy gwblhau amrywiaeth eang o weithgareddau hyfforddiant a datblygu sy’n briodol i’r unigolyn a’i gyfnod astudio. Gallai llwybr nodweddiadol drwy’r broses edrych yn debyg i hyn:

Cyfnod Cynnar

  • Sgiliau ymchwil
  • Methodolegau penodol
  • Adnewyddu neu ymestyn sgiliau

Cyfnod Canol

  • Ysgol graddedigion KeSS
  • Technegau dadansoddi data
  • Technegau cyflwyno

Cyfnod Hwyr

  • Ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiad
  • Cyflwyno mewn cynhadledd
  • Gweithdai gyrfaoedd

Mae amrywiaeth enfawr o gyfleoedd hyfforddi a datblygu ar gynnig, ac mae goruchwylwyr academaidd a chwmnïau partner yn cynnig cyngor a chyfarwyddyd ynglyn â sut i flaenoriaethu’r rhain er mwyn cwblhau’r prosiect yn well.

Llwybr enghreifftiol manwl drwy PSDA KESS

Yn ddelfrydol, mae’r Ysgol Graddedigion KESS yn dod ar ddiwedd y cyfnod cynnar a dechrau’r cyfnod canol ac mae’n cynnig cyfle i gyfranogwyr KESS i gydweithio ag eraill y tu allan i’w hamgylchedd ymchwil. Mae’r gwaith ‘adeiladu cohort’ hwn wedi cael ei werthfawrogi’n fawr ac mae’n fuddiol iawn. Rydym yn cymryd y cyfle i edrych ar ryngweithio ag amryw o randdeiliaid a sut i reoli’r senario hwnnw. Mae Ysgol Graddedigion KESS yn edrych ar ochr fusnes y prosiect ac mae hefyd yn cynnwys yr hyfforddiant Datblygu Cynaliadwy, er mwyn i hynny fod yn thema gyson drwy’r prosiect i gyd.

Digwyddiadau preswyl yw Ysgolion Graddedigion KESS ac fe’u cynhelir mewn lleoliadau yng Ngogledd, Canolbarth a De Cymru drwy gydol y flwyddyn. Mae cohortau Ysgol Graddedigion KESS yn tueddu i gadw mewn cysylltiad â’i gilydd gan weithredu fel math anffurfiol o rwydweithiau cymorth, adolygwyr cydweithwyr a ffrindiau. Yn aml, byddwn yn gweld y grwpiau hyn yn ailffurfio o gwmpas bwrdd (ac mewn ffotograffau) mewn digwyddiadau KESS!

Rydym hefyd yn cynnig y cyfle i gymryd rhan yn Ysgol Graddedigion ryngwladol KESS yn flynyddol fel rhan o’n rhwydwaith Ysgol Ddoethurol Ddiwydiannol Ewropeaidd.

Cyfnod Cynnar

  • Ymsefydlu
  • Dulliau Ymchwil
  • Llywodraethu ymchwil
  • Hyfforddiant yn y cwmni partner
  • Her Pecha Kuch
  • Hyfforddiant ystadegau [r]
  • Refworks / chwilio am wybodaeth
  • Rheoli’r Prosiect
  • Rheoli amser
  • Defnyddio cyfryngau cymdeithasol
  • Mewn ymchwil
  • Hyfforddiant methodoleg arbenigol

Cyfnod Canol

  • Ysgol graddedigion KeSS
  • Dadansoddi data
  • Adolygiadau systematig
  • Ysgrifennu traethawd ymchwil i
  • Cyflwyniad grŵp Ymchwil Ôl-radd
  • Addysgu / arddangos
  • Cyflwyno poster mewn cynhadledd
  • Hyfforddiant caniatâd hawlfraint / eiddo deallusol
  • Modelu ystadegol
  • Encil ysgrifennu

Cyfnod Hwyr

  • Goroesi arholiad llafar
  • Ffug arholiad llafar
  • Ysgrifennu traethawd ymchwil ii
  • Cyhoeddi
  • Gweithdai gyrfaoedd
  • Ymgysylltu â’r cyhoedd
  • Cyflwyno papur cynhadledd
  • Gweithio gyda’r cyfrynga